#                                                                                      

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae

Rhif y ddeiseb: P-05-804

Teitl y ddeiseb: Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid dynodedig blynyddol i roi cymorth ariannol i bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni eu dyletswydd yn unol â’u hasesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae er mwyn osgoi cau darpariaethau chwarae agored megis RAY Ceredigion.

Y sefyllfa gyfreithiol

Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu ar gyfer chwarae plant, o dan y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae Adran 11 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu pa mor ddigonol yw cyfleoedd chwarae yn ei ardal i blant, a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mae’n ofynnol hefyd i Awdurdodau Lleol gyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd a chadw’r wybodaeth hon yn gyfoes. 

Er mwyn cefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswyddau, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru y Cyfarwyddyd Statudol: Cymru - Gwlad lle mae cyfle i Chwarae ar asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardaloedd. Mae’r cyfarwyddyd yn rhoi manylion ynghylch y naw mater y mae angen i awdurdodau lleol eu hystyried yn hyn o beth. Nid yw’n cyfeirio’n benodol at gyllid. Mae un o’r ‘materion’ hyn yn ymwneud â ‘Thaliadau am ddarpariaeth chwarae’. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

Bydd cyfleoedd i chwarae mewn mannau agored a mannau chwarae awyr agored dynodedig lle nad oes staff (Mater C) yn cael eu darparu am ddim i blant ac unrhyw oedolion sydd gyda hwy. Gellir codi tâl ar blant a’u teuluoedd am gyfleoedd chwarae dan oruchwyliaeth, am ddarpariaeth gwaith chwarae a gweithgareddau hamdden strwythuredig (Mater Ch). Gallai hyn fod ar ffurf cyfraniadau gwirfoddol, tâl mynediad a thalu am weithgareddau neu danysgrifio iddynt. Gallai cludiant i’r cyfleoedd hyn fod yn gost ychwanegol (Mater Dd). Yn amlwg, bydd unrhyw daliadau yn cael effaith o ran a fydd amrywiaeth eang o gyfleoedd chwarae ar gael i bob plentyn ac, felly, yn effeithio ar ddigonolrwydd y ddarpariaeth mewn ardal benodol. Dylid sylweddoli y gall hyd yn oed gostau cymharol isel i deuluoedd ar incwm isel sydd â sawl plentyn olygu na all y plant hynny achub ar gyfleoedd chwarae.

Dylai’r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ddangos pa gyfleoedd chwarae sy’n cynnwys tâl, a swm y tâl hwnnw. Dylai ystyried i ba raddau y mae unrhyw daliadau                                                                                                                                             yn effeithio ar ba mor ddigonol yw cyfleoedd chwarae ar gyfer: -

- Plant o deuluoedd incwm isel.

- Plant sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd.

- Plant sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

- Plant anabl neu blant ag anghenion penodol.

Dylai’r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r Cynlluniau Gweithredu Chwarae ddangos i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn ystyried taliadau ar gyfer y plant hyn a’u teuluoedd, a’r mesurau a ddefnyddir i liniaru’r amgylchiadau hyn, gan gynnwys:

- Y cyfleoedd o ran dim cost i chwarae a ddarperir ar gyfer plant.

- Dim costau neu gostau isel am ddefnyddio adeiladau awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth chwarae.

- Grantiau neu gymorthdaliadau i ddarparwyr chwarae. [Ein pwyslais ni yw’r print trwm]

- Costau cludiant â chymhorthdal ​​i blant sy’n teithio i gyfleoedd chwarae.

Bydd gwybodaeth am ddarpariaethau chwarae nad yw’n cynnwys costau, neu am gostau isel awdurdodau lleol drwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol.

Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae Ceredigion

Mae gwefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnwys crynodeb o’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae ar gyfer 2016 ochr yn ochr â Chynllun Gweithredu Chwarae Ceredigion 2017-19 . Mae’r ddogfen grynhoi yn datgan:

Gwelwyd diffyg cyllid neu gapasiti yn arwain at y sefyllfa yn gwaethygu rhyw ychydig, er enghraifft:

Yn 2013, roedd yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda RAY Ceredigion er mwyn darparu'r prosiect Chwarae Plant, gan “gynnig darpariaeth chwarae sy'n cynnig amgylchedd chwarae cyfoethog.”  Gwnaeth prosiect Chwarae Plant alluogi lefel uchel o ddarpariaeth chwarae rhagorol ar draws y sir.  Gwelwyd y ddarpariaeth chwarae yn cael ei pheryglu mewn ffordd ddifrifol pan ddaeth y prosiect Chwarae Plant i ben ym mis Rhagfyr 2014.  (Newidiodd ei statws o Wyrdd i Ambr).

Casgliad

Rydym yn gwneud cynnydd araf a chadarn tuag at ddarparu cyfleoedd chwarae digonol i blant a phobl ifanc yng Ngheredigion, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd gyfredol.

Aiff ymlaen i nodi:

Byddwn nawr yn edrych tua'r dyfodol a chysylltu ein gofynion Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae i ddatblygiad y Cynlluniau Lles newydd sy'n ofynnol o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae hyn yn rhoi cyfle i ail-leoli chwarae o fewn yr agenda lles ehangach fel rhan o flaenoriaethau ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae

Daw’r cyllid ar gyfer darpariaeth chwarae awdurdodau lleol yn bennaf o’r Grant Cynnal Refeniw, ond hefyd darperir cyllid grant i rai sefydliadau cenedlaethol. Nodir rhagor o fanylion isod.  

Grant Cynnal Refeniw

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn:

Caiff mwy na 80 y cant o wariant yr awdurdodau lleol ei fodloni gan y cymorth a ddarperir i awdurdodau lleol ar ffurf Grant Cynnal Refeniw, ardrethi annomestig ac amrywiaeth o grantiau eraill a ddarperir at ddibenion polisi penodol mewn meysydd megis addysg a thrafnidiaeth.

Mae hefyd yn nodi:

Mae Llywodraeth Cymru'n dosbarthu RSG i awdurdodau lleol gan ddefnyddio fformiwla y cytunir arni'r gyffredin.  Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am benderfynu sut y maent yn gwario eu dyraniad o RSG ar y gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt, sy'n cynnwys ysgolion. Egwyddor sylfaenol y setliad llywodraeth leol yw nad yw cyllid yn cael ei glustnodi i wasanaethau penodol. Nid yw Llywodraeth Cymru'n pennu targedau ar gyfer gwariant awdurdod lleol ar ysgolion. [Ein pwyslais ni yw’r print trwm]

Cyllid grant Llywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd 2017, fel rhan o waith craffu ar y Gyllideb Ddrafft 2018-19, darparodd Llywodraeth Cymru bapurar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Wrth sôn am gyllid ar gyfer chwarae, cyfeiriodd at:

Darparu cyllid gwerth £2.3 miliwn bob blwyddyn i awdurdodau lleol er 2012 i'w helpu i lenwi bylchau sy'n ymddangos wrth iddynt gynnal eu hasesiadau digonolrwydd gofal plant a'u hasesiadau digonolrwydd chwarae. 

Wrth gyfeirio at arian yn y gorffennol, cyfeiriodd at y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd a barodd o fis Hydref 2014 hyd at 30 Medi 2017. Un o nodau’r grant hwn oedd cynyddu cyfleoedd i blant yng Nghymru chwarae. Daeth y grant ar gyfer chwarae a ddyfarnwyd i Groundwork Wales i ben ym mis Medi 2017. Estynnwyd y grant ar gyfer Chwarae Cymru tan fis Mawrth 2018. Eglurodd Llywodraeth Cymru:

Cymru oedd y wlad gyntaf i roi chwarae ar sail statudol i gydnabod ei gyfraniad pwysig at ddatblygiad a lles corfforol, cymdeithasol a gwybyddol plant a phobl ifanc. Mae gan Chwarae Cymru swyddogaeth strategol yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol ym maes chwarae ac yn helpu Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r agenda chwarae yng Nghymru. Er mwyn cydnabod hyn,  penderfynais estyn y cyllid ar gyfer Chwarae Cymru y tu hwnt i fis Medi 2017 am 6 mis arall, sy'n golygu mai cyfanswm y cyllid fydd  £360,000 yn 2017-18.  Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried cynllun busnes i ddarparu cymorth yn y dyfodol i Chwarae Cymru o 2018-19 ymlaen.

RAY Ceredigion

Mae Ray Ceredigion yn elusen gofrestredig sy’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i blant. Mae gwefany Comisiwn Elusennau yn datgan:

RAY Ceredigion supports children and young people out of school and those that work or volunteer with them including in open access play and childcare settings. We work to increase understanding of and to support children and young people's right to play, leisure and recreation. RAY Ceredigion covers the county of Ceredigion in West Wales..

Mae’r wefan hefyd yn nodi mai ei incwm yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017 oedd £194,500, o’i gymharu ag incwm o £406,100 ym mis Chwefror 2014. Yn ei Ddatganiad ar ei Weithgareddau Ariannol yn y flwyddyn a oedd yn diweddu fis Mawrth 2017, ceir rhagor o fanylion am yr incwm hwn.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Trydydd Cynulliad, yn 2010, adroddiad ar ei ymchwiliad i Fannau Diogel i Chwarae a Chymdeithasu.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.